Message Index Efallai fod yr enwn swnion gymhleth, ond dim ond y rhestr o negesau ebost sydd mewn ffolder arbennig yw hyn.
The Message Index

Wedi i chi glicio ar ffolder, byddwch yn cael eich arwain (yn y ffrâm dde) ir mynegai negesau. Mae hwn yn rhestru neges au yn y ffolder wedi ei dewis. O dan y ddewislen mae llinell syn eich hysbysu pa bost rydych chin edrych arno yn rhifol a beth yw eich cyfanswm

Er enghraifft: Edrych ar negesau 20 i 30 (cyfanswm o 45).

Sylwch y gall cyfanswm nifer y negesau fod yn wahanol i nifer y post nad yw wedi ei ddarllen, sydd ir dde or prif ffolder post.

Yn nesaf at hynny mae bar yn cynnwys pedwar botwm. Ar yr ochr chwith mae blwch rhestr gwympo. Maer blwch yn rhestrur ffolderi yr ydych wedi tanysgrifio amdanynt ar hyn o bryd. Bydd unrhyw neges wedi ei dewis yn cael ei symud ir ffolder a ddewiswyd pan wthiwch fotwm Move. Gallwch symud mwy nag un neges ar unwaith. Ir dde pellaf or bar yma mae botwm syn cael ei ddefnyddio i ddileu negesau wedi eu dewis. Yr unig beth syn rhaid ei wneud yw dewis Junk Mail a phwysor botwm. Ir chwith or botwm Delete mae dau fotwm syn fodd i chi farcio negesau wedi eu dewis naill ai fel Read neu Unread.

Yn dilyn hynny daw bar yn cynnwys tri maes (From, Date a Subject). Maer penawdau yma yn gwahanur tabl negesau yn rhannau rhesymegol. Mae From yn dweud wrthych chi pwy sydd wedi anfon y neges, neu o leiaf o ba gyfeiriad ebost y daeth. Mae Date yn dangos y diwrnod yr anfonwyd yr ebost. Mae Subject yn dangos y gair a deipiodd y sawl syn ei anfon yn destun. Sylwch: Rhwng y colofnau Date a Subject mae colofn fechan nad ywn cynnwys label. Gallai fod +, ! neu A yno. Os welwch chir + mae hyn yn golygu fod gan y neges atodiadau; os welwch chir A, mae hynnyn golygu eich bod wedi ateb y neges, ac os welwch chir !, yna roedd y neges wedi ei marcio fel un brys!

Yr hyn syn weddill ywr tabl negesau ei hun. Byddwch yn sylwi fod negesau nad ydych wedi eu darllen mewn llythrennau trwm tra bo negesau yr edrychwyd arnynt mewn testun arferol. Maer tabl yma yn cynnwys pedwar maes. Ar y chwith pellaf mae blwch dewis. Oi ddewis, bydd y neges ar yr un llinell yn dilyn yr un drefn weithredu ag a drafodwyd or blaen (symud, marcio, darllen, heb ddarllen a dileu). Maer cyswllt Toggle All ar frig y rhestr yn fodd i chi wirior holl flychau dewis ar unwaith.
O dan y pennawd From bydd enwr sawl a anfonodd y neges wedi ei restru. Fawr o syndod meddech chi! Ond cofiwch, does dim rhaid i chi ddarllen hwn! Y dyddiad syn cael ei restru nesaf ac, yn olaf, y testun.

Os yw eich blwch post yn cynnwys nifer o negesau, bydd y rhestr yn cael ei rhannu ar draws mwy nag un dudalen heb i chiorfod wneud dim, a bydd y dudalen gyntaf yn cael ei harddangos. I edrych ar y tudalennau eraill, defnyddiwch y cysylltau Previous a Next ar frig y rhestr negesau ac ar ei gwaelod. Gallwch hefyd neidio i dudalen benodol trwy glicio ar un or rhifau (mae pob un y cynrychioli tudalen). Os cliciwch chi ar Show All byddwch yn analluogir tudalennu (paginating), a bydd yr holl negesau yn cael eu harddangos ar un dudalen fawr.