Compose Maer nodwedd yma yn fodd i chi anfon negesau i wahanol bobl o SquirrelMail.

Bydd y ddewislen Compose yn mynd â chi i dudalen Compose newydd. Yma byddwch yn dod o hyd i sawl maes ac un neu ddau o fotymau. Gan ddibynnu ar sut y gwnaethoch chi gyrraedd y man gweld Compose, efallai y bydd rhai or meysydd yma wedi cael eu llenwin barod.

From

Dim ond os byddwch chi wedi galluogi mwy nag un dynodiad (trwyr ddewislen Options, Personal Preferences) y bydd y maes From: yn cael ei arddangos. Os ydych chi wedi gwneud hyn gallwch ddewis pa ddynodiad yr hoffech chi ei ddefnyddio, h.y. pa enw a chyfeiriad e-bost syn ymddangos fel y llinell From ar eich negesau.

To

Yn dilyn y maer maes To:. Yn y maes yma dylech deipio cyfeiriad e-bost yr unigolyn neur bobl rydych chin anfon y neges atynt. Gallwch deipio cynifer o gyfeiriadau ag y dymunwch, gan eu gwahanu ag atalnod. Gallwch hefyd bwysor botwm "Addresses" i lenwir maes. Peidiwch â phoeni os nad ywr cyfeiriad cyflawn yn cael ei arddangos. Mae hyd y maes yn un penodol, ond bydd popeth a rowch chi i mewn ynddo yn cael ei ddefnyddio, er y gall sgrolio ir dde neu ir chwith.

Cc

Yn dilyn hwnnw y maer maes CC:. Talfyriad am Carbon Copy yw CC. Os ydych chi eisiau anfon copi or neges i rywun arall dyma lle y byddech chin gwneud hynny. Meddyliwch am hyn yn yr un modd ag y mae memo yn cael ei osod. Gallwch gynnwys cynifer o bobl ag y dymunwch yn y meysydd To:, CC:, a BCC:. Dim ond y bobl syn cael eu heffeithion uniongyrchol gan y neges fyddai yn y maes To: tra byddair rhai syn derbyn y neges er gwybodaeth yn unig o bosib yn y meysydd CC: a BCC:.

Bcc

Talfyriad am Blind Carbon Copy yw BCC. Defnyddiwch hwn i anfon copi or e-bost i rywun heb ir rhai y mae eu henwau yn y meysydd To: neu CC: wybod amdano.

Subject

Teipiwch bennawd perthnasol yma. Cofiwch, gall e-bost arbed llawer iawn o amser ac un rheswm allweddol am hyn yw pennawd testun cywir.

Addresses Button

Bydd y botwm yma yn agor y llyfr cyfeiriadau wedi i flwch chwilio gael ei gyflwyno.. Maen rhaid i chi deipio rhywbeth i mewn ir blwch chwilio er mwyn cael canlyniad. Os ydych chi angen yr holl gyfeiriadau yn y llyfr cyfeiriadau, pwyswch y botwm List All. Mae gan y llyfr cyfeiriadau gymaint o swyddogaethau fel ei fod yn haeddu ei adran ei hun. Mae mwy o wybodaeth fanwl ar gael yn y bennod Cyfeiriadau.

Save Draft button

Os fuoch chin cyfansoddi neges ac nad ydych chin barod iw anfon eto am ryw reswm, gallwch ddefnyddior botwm yma i gadwr neges yn y ffolder Drafts. Os fyddwch chi eisiau cwblhaur neges yn ddiweddarach ai anfon allan, ewch ir ffolder Drafts, agorwch y neges a byddwch yn dychwelyd ir dudalen Compose lle mae eich neges wedi ei llenwi i mewn.

Priority

Os yw gweinyddwr eich system wedi ei alluogi, bydd rhestr gwympo or enw "Priority" ar gael ir dde or botymau. Dyma lle gallwch ddewis pa mor bwysig ywr neges. Gallai neges â blaenoriaeth uchel gael ei chyflwyno mewn dull gwahanol gan raglen bost y sawl syn ei dderbyn. Sylwch y bydd gor-ddefnyddior swyddogaeth yma yn golygu na fydd yn cael yr un effaith.

Message Body

Diben y blwch mawr gwag yw cynnwys unrhyw beth y dymunwch ei roi ynddo. Os oes ffeil lofnod wedi ei chadw bydd honnon ymddangos yma hefyd. Dyma lle rydych yn teipio prif ran eich neges.

Attach

Ar waelod y dudalen Compose, maer nodwedd yma yn eich galluogi i gynnwys ffeil gydach e-bost. Rhaid ir ffeil yma fod wedi ei lleoli ar eich peiriant neu rwydwaith lleol os am ei atodi. Mae botwm pori ar gael felly gallwch chwilio drwy strwythur eich cyfeiriaduron a chlicio ar y ffeil sydd iw chynnwys. Fel arall gallwch deipion uniongyrchol i mewn ir maes atodi os ydych chin gwybod beth yw enwr llwybr cyfan ac union enwr ffeil. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw pwysor botwm Add i restrur ffeil a ddewiswyd yn atodiad a bydd yn ymddangos oddi tano.

Unwaith y bydd un ffeil o leiaf yn cael ei chyflwyno iw hatodi bydd botwm arall yn dod ir golwg. Gallwch ddileu un ffeil neu ragor a atodwyd trwy ddewis y ffeil neu ffeiliau tramgwyddus a phwysor botwm dileu atodiadau. a ddewiswyd.