Addresses Gall llyfrau cyfeiriadau arbed llawer o amser a gwaith teipio. Gallwch gynnwys cyfeiriadaur bobl y byddwch yn ysgrifennu atynt amlaf ynddynt, au hailddefnyddio drosodd a throsodd.

Mae llyfrau cyfeiriadau yn nodwedd gwych o ran arbed amser. Gallwch storio cyfeiriadau y byddwch yn eu defnyddion aml yma. Mae gweinyddwyr LDAP (syn cael eu defnyddion aml gan gwmnïau a phrifysgolion er mwyn gwneud cyfeiriadau ledled y sefydlia d yn hawdd iw cael) yn cael eu cynnal hefyd.

Os yw eich Porwr yn cynnal Javascript yna efallai y byddwch chi eisiau galluogir llyfr cyfeiriadau JavaScript o dan yr eitem ddewislen Options. Mae hwn yn beth bach gwirioneddol hwylus syn neidio i fyny. Mae rhestri cyfeiriadau mewn HTML pur yn cael eu cynnal felly gall porwyr nad ydynt yn cael eu cynnal gan Javascript ddefnyddio SquirrelMail heb golli unrhyw un or swyddogaethau.

Nick Name

Rhowch enw cyfarwydd yma. Rhywbeth i roi proc ich cof. Unrhyw beth a fydd yn rhoi syniad cywir i chi o ran pwy syn berchen y cyfeiriad ebost yma.

Email Address

Rhaid i hwn fod yn gyfeiriad ebost llawn cymwysedig yr unigolyn hwnnw. Fydd dyfalun da i ddim i chi yma. Mae tair rhan i gyfe iriad ebost. Yn gyntaf y maer hyn syn nodir derbynnydd, "johnq" er enghraifft. Yn dilyn hynny y maer adran enw parth, allai fod ar ffurf "tayloru". Yn olaf dawr parth ar y lefel uchaf, allai fod yn un o lwyth o bethau fel au, cc, us, com, org, net neu allai edrych fel edu. Felly os rown nir holl bethau hynny at ei gilydd maen rhaid iddo fod ar ffurf johnq@tayloru.edu. Os yw hyn yn anghywir rydych chin debygol o gael eich post yn ôl ar ffurf neges wedi adlamu.

Info

Dyma faes arall lle y gallwch roi rhywbeth ynddo ich atgoffa pwy ywr unigolyn. Mae hwn wedi ei lunio i fod yn hwy nar "Llysenw". Er enghraifft, os ydych chin cyfarfod â chyswllt busnes, gallech roi Cyfarfod yn y Symposiwm Tomatos.

Edit or Delete

Maer ddau fotwm yman eich galluogi chi i ddewis un cyfeiriad unigol ac yna newid unrhyw un or meysydd uchod, neu ddileur cofnod yn gyfangwbl. Dim ond un cofnod y gallwch ei ddewis ar un tro ar gyfer y botwm edit.

Add to Personal address book

Llenwch y meysydd fel ag y maent wedi eu rhestru. Rhaid llenwir tri cyntaf (Llysenw, cyfeiriad E-bost, ac Enw cyntaf). Maer Cyfenw ar Wybodaeth ychwanegol yn ddewisol.

LDAP

Mae LDAP yn brotocol ar gyfer storio deunydd yn unedig a chanolog ac i gael gafael ar wybodaeth o bell. Er enghraifft, gallai prifysgol ddefnyddio LDAP fel yr un man lle y mae cyfeiriadau pob myfyriwr, aelod o staff a chyfadrannau yn cael eu storio au rhoi o fewn cyrraedd. Os yw wedi ei ffurfweddu i ddefnyddio gweinyddwr LDAP y brifysgol, gallai SquirrelMail wedyn restru pob cyfeiriad ebost ar y campws (ynghyd âr meysydd llyfrau cyfeiriadau eraill os ydynt ar gael). Maer modd y mae SquirrelMail yn defnyddio LDAP yn wirioneddol nerthol yn yr ystyr ei fod yn cyfuno eich llyfr cyfeiriadau lleol ar wybodaeth am gyfeiriadau ar weinyddwr yr LDAP i gyflwynor holl wybodaeth fel pe bae yn un llyfr cyfeiriadau unigol.

Gallwch ffurfweddur gosodiad LDAP i ddefnyddio unrhyw weinyddwr LDAP, neu ei analluogi fel nodwedd yn gyfangwbl. Bydd angen i chi siarad â gweinyddwr eich system yngln âr nodwedd yma os oes gennych gwestiynau penodol.

Mae gosodiadau LDAP yn effeithior system SquirrelMail yn gyfangwbl; o ganlyniad maen rhaid eu sefydlu neu eu newid gan rhywun sydd ag awdurdod gweinyddol.